Cymraeg (Welsh) and Music BA (Hons)
Course Overview - Cymraeg (Welsh) and Music BA (Hons)
Mae cysylltiad clos rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. O gyfunor ddau bwnc cewch eich arfogi â gwybodaeth o iaith, llenyddiaeth a sgiliau cerddorol syn briodol i amrywiaeth dda o yrfaoedd gan gynnwys y sectorau celfyddydol a threftadol ac addysg a darlledu. Mae cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau eraill y myfyrwyr a bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddarlithio. Mae Cymraeg ym Mangor hefyd yn llawer mwy na chwrs gradd. Maen becyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broff...
Mae cysylltiad clos rhwng cerddoriaeth a llenyddiaeth yng Nghymru. O gyfunor ddau bwnc cewch eich arfogi â gwybodaeth o iaith, llenyddiaeth a sgiliau cerddorol syn briodol i amrywiaeth dda o yrfaoedd gan gynnwys y sectorau celfyddydol a threftadol ac addysg a darlledu. Mae cyfleoedd i ymuno â Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol, Côr Siambr ac amryw o gymdeithasau eraill y myfyrwyr a bydd eich profiad cerddorol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddarlithio. Mae Cymraeg ym Mangor hefyd yn llawer mwy na chwrs gradd. Maen becyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol a boddhaus wrth greu Cymru wirioneddol ddwyieithog.

Dyma gwrs sy’n caniatáu i chi fwynhau holl gyfoeth llenyddiaeth, drama a diwylliant creadigol y Gymraeg ochr yn ochr â holl gyfoeth y byd cerddorol yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n gyfuniad deinamig o’r creadigol, yr ymarferol a’r academaidd a hynny mewn dau faes sydd â chysylltiad clos a chyffrous âi gilydd. Gall myfyrwyr sy’n mwynhau gweithgarwch creadigol ddilyn gweithdai barddoniaeth a rhyddiaith yn y Gymraeg, ac ar yr un pryd ddilyn modiwlau cyfansoddi cerddoriaeth. Mae hwn yn llawer mwy na chwrs gradd: maen cynnig pecyn diwylliannol a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan greadigol yn niwylliant cyfoes Cymru.

Cofiwch hefyd fod cymuned ddiwylliannol ddeinamig Prifysgol Bangor yn rhoi cyfle i chi ymuno mewn corau, bandiau a cherddorfeydd, yn ogystal â pherfformio mewn eisteddfodau a gwyliau diwylliannol. Mae gan Brifysgol Bangor ddwy neuadd gyngerdd, pedair stiwdio electroacwstig, ac mae Canolfan Pontio yn cynnal digwyddiadau lu ym meysydd drama, llenyddiaeth, ffilm a cherddoriaeth.

O gyfuno Cymraeg a Cherddoriaeth cewch eich arfogi â gwybodaeth eang o iaith, llenyddiaeth yn ogystal â sgiliau cerddorol syn briodol i bob math o yrfaoedd. Byddwch yn dysgu sgiliau dadansoddol newydd er mwyn ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth a cherddoriaeth, ac fe welwch hefyd berthnasedd y traddodiad Cymraeg i rai o ffurfiau diwylliannol pwysicaf y byd, gan ystyried sut mae llenorion a cherddorion wedi ymateb i ofynion yr oesoedd.

Mwynhewch hyn oll ochr yn ochr â dysgu sgiliau ymarferol y mae galw cynyddol amdanynt yng ngweithleoedd Cymru heddiw, o ysgrifennun hyderus ac yn effeithiol yn y Gymraeg, i gyfieithu a sgriptio; ac o berfformio, cyfansoddi a defnyddio cerddoriaeth yn y gymuned, i ddysgu sgiliau oesol harmoni a gwrthbwynt.

Mae amrywiaeth a chyfoeth y cwrs gradd hwn yn eithriadol o werthfawr, ac maer ddau bwnc yn gwir gyfoethogi ei gilydd.

Mae opsiynau Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a Blwyddyn ar Leoliad ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiynau hyn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i un o’r opsiynau yma ar yr adeg priodol. Mae mwy o wybodaeth am yr opsiynau hyn ar ein gwefan, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiad.

Os nad oes gennych mor cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd hwn, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi. Gwnewch gais am Cymraeg i ddechreuwyr (gyda Blwyddyn Sylfaen) neu Music (with Foundation Year) W30F.
Course Information
1 option available
Some courses vary and have tailored teaching options, select a course option below.
Course Details
Information
Study Mode
Full-time
Duration
3 Years
Start Date
21/09/2026
Campus
Main Site
Application Details
Provider Details
Codes/info
Course Code
QW53
Institution Code
B06
Points of Entry
Year 1
Entry Requirements
UCAS Tariff
104
128
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth. Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig. Cerdd: Gellir eu hystyried ar y cyd â gradd B mewn Cerddoriaeth Lefel A; neu deilyngdod yng Ngradd 5 Theori/Gradd 7 Ymarferol/ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool; neu'r Fagloriaeth Ryngwladol Uwch mewn Cerddoriaeth. Cymraeg: Gellir ystyried cymwysterau Lefel 3 ar y cyd â chymhwyster arall mewn Cymraeg (e.e. Safon Uwch, IB Uwch). All Music courses: the ability to read staff notation is required. Points from grade examinations are taken into consideration where appropriate, although are not normally included in the offer. Music: Level 3 qualifications can also be considered in conjunction with a grade B in A level Music, merit in the ABRSM/Trinity/LCM/Rockschool Grade 5 Theory/Grade 7 Practical, or IB Higher in Music. Welsh: Level 3 qualifications can be considered in conjunction with another qualification in Welsh (e.g. A-level, IB Higher).
Scottish Higher
Isafswm o 5 Scottish Highers - efallai y bydd angen rhai graddau pwnc-benodol/Efallai y bydd angen Advanced Highers. Minimum of 5 Scottish Highers - some subject specific grades/Advanced Highers may be required.
Access to HE Diploma
Cwrs mynediad gydag elfen o Gymraeg. Access course with Welsh elements.
International Baccalaureate Diploma Programme
Gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg a gradd H5 mewn Cerdd. Including grade H5 in Music and grade H5 in Welsh.
Pearson BTEC Level 3 National Extended Diploma (first teaching from September 2016)
DMM
DDM
Gan gynnwys uned sy'n dangos y gallu i ddarllen hen nodiant. (Byddwn hefyd yn ystyried cymwysterau BTEC eraill ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill.) Including a unit demonstrating the ability to read staff notation. (We will also consider other BTEC qualifications in conjunction with other level 3 qualifications.)
OCR Cambridge Technical Extended Diploma
Extended Project
Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Points can include a relevant Extended Project (EPQ) but must include a minimum 2 full A-levels, or equivalent. Please contact us for more information.
A level
Gan gynnwys: gradd B mewn Cerdd; gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Celfyddydau neu Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Ffrangeg, Almaeneg, Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol Including: grade B in Music; and, grade B in Welsh (or a grade B in an Arts or Humanities subject studied through the medium of Welsh - e.g. French, German, History, Geography, Religious Studies).
T Level
Derbynnir cymwysterau Lefel T fesul achos. T Level qualifications are accepted on a case-by -case basis.
Welsh Baccalaureate - Advanced Skills Challenge Certificate (last awarded Summer 2024)
Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill. We will accept this qualification in conjunction with other level 3 qualifications.
Search Undergraduate Courses at Bangor University
Find more courses from Bangor University with our undergraduate course search.
Upcoming Open Days at Bangor University
12
Oct, 2025

Bangor University12 Oct 2025
Undergraduate Open Day
1
Nov, 2025

Bangor University1 Nov 2025
Undergraduate Open Day
22
Nov, 2025

Bangor University22 Nov 2025
Undergraduate Open Day
Request More Information
Request Information Request Information
Any questions about a specific university or course? Request some information and find out everything you need to know.
Fees and funding
Region | Costs | Academic Year | Year | |

England, Northern Ireland, Scotland, Wales, Channel Islands, Republic of Ireland | £9,535 | 2025/26 | Year 1 |
Order Free Prospectuses
The ideal way to read about detailed course information is with a university prospectus. Request a FREE prospectus and learn more about this course today.